|
NEWYDD-DDYFODIAID IFAINC
Os yw dyfodol y diwydiant amaeth yng Nghymru am fod yn un egnïol,
rhaid iddo ddenu ieuenctid talentog ac hyfforddiedig sy'n meddu
ar egni a brwdfrydedd. Mae yna bryder am ddiffyg cyfleoedd i'r ifanc
o fewn y diwydiant, a bod angen cymryd camau positif ar fyrder os
yw'r problem o ddiffyg gwaed ifanc am gael ei ddatrys.
Mae
UAC yn galw ar y Llywodraeth nesaf i:
- gymryd
mantais o bolisiau presennol yr UE ar gyfer cynorthwyo newyddddyfodiaid
o dan 40 mlwydd oed i sefydlu'u hunain o fewn y diwydiant.
Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys grantiau gosod, cymorthdaliadau
buddsoddi a nawdd ar gyfer hyfforddiant;
-
gyflwyno cynllun ymddeol cynnar fel a ganiateir gan yr UE,
er mwyn ail-strwythuro proffeil oedran y diwydiant ac nid
i ail-strwythuro maint ffermydd;
- ystyried
anghenion a gobeithion newyddddyfodiaid ifainc yn ystod
y trafodaethau ar ddiwygio'r PAC, e.e. cymorth wedi'i dargedu;
- geisio
diwygio'r rheolau presennol ar y sector llaeth er mwyn caniatau,
er enghraifft, sefydlu cronfa o gwotâu llaeth yn arbennig
ar gyfer newyddddyfodiaid i'r diwydiant;
-
ddarparu cymhellion ariannol i annog partneriaethau a chynlluniau
ffermio cydweithredol;
-
ddarparu'r amgylchiadau cywir i sicrhau ffyniant y sector
rhentu (gweler yr adran nesaf ar denantiaeth); sicrhau fod
darparwyr addysg ac hyfforddiant galwedigaethol Cymru yn
cynnig cyrsiau perthnasol ac hygyrch.
|
|