|
MATERION TENANTIAETH
Mae
traean o holl ddaliadau Cymru yn cael eu rhentu ac y mae'r sector
hwn yn chwarae rhan allweddol ac annatod yn strwythur diwydiant
amaeth Cymru. Gwrthwynebodd UAC Denantiaethau Busnes Fferm am eu
bod yn gam tuag at denantiaethau byr na all gynnig sicrwydd i'r
dyfodol na chyfle i newydd-ddyfodiaid ennill eu plwyf o fewn y diwydiant.
Mae UAC yn argymell:
- arolwg
cynnar o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 yng ngoleuni
tystiolaeth y CCAV fod yna symudiad amlwg oddi wrth denantiaethau
tymor hir i rai tymor byr gydag ond 7% o ddaliadau rhent
y wlad yn cael eu gosod i wir newyddddyfodiaid;
-
parhad daliadau bychain y Cynghorau Sir fel cam cyntaf i
fewn i'r diwydiant amaeth;
-
y dilyd galw am asiantaeth genedlaethol yng Nghymru â chyfrifoldeb
am reoli a gweinyddu ffermydd y Cynghorau Sir yn dilyn ad-drefnu
llywodraeth leol;
-
y dylid gwrthwynebu'n gryf yr awgrym, a wnaed yn y Papur
Gwyn "Cefn Gwlad Cymru ar Waith", i ganiatau i awdurdodau
lleol ddefnyddio 90% o'r elw a wnânt ar werthu ffermydd
y Cyngor Sir.
|
|