ADLONIANT A MYNEDIAD

Mae yna alw cynyddol am fynediad i gefn gwlad Cymru ac fe dyf yn fwy-fwy anodd i gymodi gofynion cystadleuol busnes a difyrrwch. Tra bod cefn gwlad yn le i fwynhau ac i ymlacio mae hefyd yn weithle i ffermwyr a'r rheini sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau atodol. Y ffordd orau o greu gwell dealltwriaeth a pharch rhwng y carfanau hyn yw i bennu mynediad yn lleol, trwy'r cynghorau sir, gydag ymgynghoriaeth lawn.

Mae UAC yn argymell:

  • y dylid ad-drefnu'r rhwydwaith presennol o lwybrau cyhoeddus a thargedu adnoddau at y llwybrau hynny sy'n dal pwrpas cyfoes;
  • y dylai dargyfeiriadau fod yn orfodol pan fo llwybrau cyhoeddus yn dal perygl i'r cyhoedd. Dylid ystyried caniatau dargyfeiriadau rhad ac am ddim pan y gallai hyn arwain at lwybr gwell ar sail rhesymau diogelwch ac ymarferoldeb;
  • y dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o wrthwynebiadau lleol; y dylid annog cydweithrediad rhwng awdurdodau'r ffordd fawr, yr awdurdodau lleol a thirfeddianwyr er mwyn gwella arwyddion ffyrdd, ynghyd â sefydlu partneriaethau gwaith positif rhwng tirfeddianwyr a defnyddwyr yn lleol;
  • y dylid gwrthwynebu'r polisi o "ryddid i grwydro" ar dir mynyddig neu agored; lle bo galw am fwy o fynediad i gefn gwlad dylai'r awdurdodau lleol drafod telerau'r cytundebau mynediad gyda ffermwyr a thirfeddianwyr lleol;
  • y dylid annog cytundebau mynediad gwirfoddol fel modd o estyn y rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus, ond ni ddylid derbyn unrhyw ymdrech i gynyddu pwerau statudol;
  • y dylai holl ddefnyddwyr cefn gwlad ddarparu côd ymddygiad.