|
PARCIAU CENEDLAETHOL A MATERION CYNLLUNIO
Gyda
chyflwyniad Deddf yr Amgylchedd 1995 trodd Parciau Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog, Sir Benfro ac Eryri yn awdurdodau annibynnol.
Dyma gam sy'n cynrychioli newid sylweddol ac fe rydd gyfle i'r parciau
hyn i drefnu'u buddiannau eu hunain a datblygu polisiau a chynlluniau
positif. Mae UAC yn croesawu pwyslais y Ddeddf ar yr angen i ystyried
lles trigolion lleol. Yn wir, ni all y Parciau Cenedlaethol weithredu'n
llwyddiannus heb bolisiau senstif sy'n dderbyniol i'r bobl a driga
ac a weithia o fewn y Parciau. Yn awr, mae gan y Parciau hyn ddyletswydd
i feithrin ffyniant economiadd a lles cymdeithasol eu cymunedau,
ac yng nghyswllt hyn, gobeithir y bydd Parciau Cymru yn mabwysiadu
agwedd cydymdeimladol tuag at gynlluniau newydd i greu elw.
Mae UAC yn galw ar y Llywodraeth nesaf i:
- sicrhau
fod yna gynrychiolaeth leol effeithiol a chytbwys, yn cynnwys
y diwydiant amaeth, ar Awdurdodau Cynllunio y Parciau Cenedlaethol;
- sicrhau
nad yw'r arolwg presennol ar ganllawiau polisi cynllunio
(PPGau) yn rhy wan gan ganiatau i awdurdodau cynllunio lleol
yng Nghymru, yn arbennig o fewn y Parciau Cenedlaethol,
i'w dehongli er colled i fusnesau lleol;
-
ad-drefnu'r plethora o ddynodiadau statudol yng nghefn gwlad
gydag ymroddiad na cheir fwy o ddynodiadau p'run ai trwy
ddulliau statudol ai beidio.

|
|