|
MESURAU ARIANNOL, CYLLIDOL A CHYFANSODDIADOL
Busnes yw amaethyddiaeth, a fel pob busnes arall mae'r diwydiant
yn cael eu heffeithio'n fawr gan bolisiau ariannol a chyllidol.
Mae amaethyddiaeth, serch hynny, yn galw am benderfyniadau rheolaethol
tymor hir a rhaid gosod y rhain yn erbyn hinsawdd economaidd sefydlog.
Cwympodd cyfanswm incwm y diwydiant yng Nghymru o 4.9% ym 1996,
a hynny yn dilyn y cwymp o 16.6% ym 1995. Os yw'r tuedd hwn am gael
ei wrthdroi, cred UAC y dylid anelu at ffrwyno cyfraddau llog a
chwyddiant, ynghyd â cheisio creu amgylchedd cywir ar gyfer buddsoddi.
Mae UAC yn galw ar y Weinyddiaeth nesaf i:
- werthuso
ac egluro costau economaidd yn llawn: buddiannau a all ddeillio
o ymuno ag arian sengl yr UE;
-
fanteisio ar ddarpariaethau'r UE, ac ad-dalu'n llawn am
oblygiadau anffafriol ailbrisio'r bunt werdd;
-
leihau'r baich o drethi enillion cyfalaf i lawer o ffermwyr
na all wneud elw'n rheolaidd ac na all fanteisio ar ryddid
rhag treth a chyfraddau trethi is;
- gynyddu
lwfansau cyfalaf ar gyfer gwariant ar offer, adeiladau ac
asedau sefydlog. (Mae yna bryderon am nad yw gwariant ar
atal llygredd na chwotâu cynhyrchu yn gymwys am lwfansau
er eu costau uchel, tra bo cyfraddau'r lwfansau ar gyfer
peiriannau ac adeiladau amaethyddol yn isel iawn);
-
gynyddu'r trothwy ar dreth etifeddiant a lwfansau;
- gyflwyno
deddfwriaeth a fydd yn galw ar adrannau ac asiantaethau'r
Llywodraeth i dalu cymorthdaliadau mewn pryd, neu i gyflwyno
mesurau penodol i gosbi taliadau hwyr;
-
gwella trefn a phrosesau cyfansoddiadol Cymru trwy sefydlu
senedd Gymreig er mwyn gyrru diddordebau diwydiant amaethyddol
Cymru yn eu blaennau; icrhau fod rôl allweddol y diwydiant
amaeth yng nghynnal agweddau allweddol eraill sy'n hynod
i Gymru yn cael ei hadnabod, h.y. yr etifeddiaeth Gymreig,
yr iaith Gymraeg a'i diwylliant.
|
|