Y SECTOR LLAETH
Mae cynhyrchion llaeth yn cyfrif am draean o holl gynnyrch fferm Cymru, ac felly, bydd gan ddyfodol y sector hwn ddylanwad allweddol ar ffyniant a thynged y diwydiant amaeth yng Nghymru. Mae yna ryw 4,680 o ffermydd llaeth yng Nghymru gyda chyfartaledd o ryw 58 o wartheg - swm is na'r cyfartaledd o 71 dros Brydain gyfan. Ni fedrai lawer o'r ffermydd hyn, oherwydd maint eu busnes, gynnal unrhyw weithgarwch heblaw am gynhyrchu llaeth, ac felly, bydd canlyniad y drafodaeth ar ddyfodol trefn laeth y PAC yn dal goblygiadau pwysig i ffermwyr llaeth a diwydiant amaeth Cymru. Mae UAC yn galw ar y llywodraeth i:
  • bwyso am arolwg o drefn laeth y PAC gan y dylid sicrhau cymorth datgyplol i ffermwyr er mwyn ysgafnhau unrhyw bwysau posibl ar brisau cynhyrchion llaeth o ganlyniad i ymlacio'r cwota llaeth ac ystwytho'r rheolau masnach;
  • adnabod a diogelu'r cyfraniadau eang a phwysig a wna diwydiant llaeth Cymru i gymunedau ac economïau ein hardaloedd gwledig - mae dyfodol diwydiannau atodol Cymru wledig yn dibynnu'n fawr ar ffyniant y sector llaeth;
  • gynorthwyo'r diwydiant llaeth yng Nghymru i adnabod cyfleoedd marchnata ar gyfer trin a chynyddu gwerth llaeth;
  • geisio codi'r gwaharddiad ar allforion lloi fel mater o frys gan y gellir yn awr, gyda chyflwyniad y pasportiau ar gyfer gwartheg, sicrhau olrheiniadwyedd llwyr; i gynorthwyo'r diwydiant i sefydlu a rheoli cronfa ddata o wartheg.