POLISI ARDALOEDD LLAI FFAFRIEDIG

Mae 80% o Gymru wedi'i dynodi'n llai ffafriedig o dan Gyfarwyddeb Strwythurau'r UE. Mae'r ardaloedd hyn o dan anfantais cyson oherwydd eu topograffeg, eu pridd, eu huchder a'u hamgylchiadau hinsoddol. Gan na all yr ardaloedd hyn greu incwm rhesymol, heb gymorth economaidd-gymdeithasol byddent yn wynebu problemau o ddiboblogi gyda chanlyniadau niweidiol i'w cymunedau a'r amgylchedd mynydd yn ei gyfanrwydd.

Mae UAC yn dadlau'n gryf dros:

  • barhad y taliadau HLCA o fewn ffiniau rheolau'r UE;
  • sefydlu cyfraddau'r HLCA ar sail arolwg gwladol blynyddol gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu cyflwr economaidd ac amgylchiadau'r ardaloedd llai ffafriedig;
  • ddadansoddiad synhwyrol ac hyblyg o'r rheolau "gorbori" yng nghyswllt Prydain er mwyn ystyried amgylchiadau hinsoddol bregus a sefyllfaoedd arbennig yr ardaloedd hyn, ac i feddwl am estyn y fath reolau i gynnwys wledydd eraill yr UE er mwyn sicrhau na chaiff cystadleuaeth ei amharu;
  • iawndal llawn a phriodol i'r ffermwyr hynny sy'n parhau i ddioddef oherwydd cyfyngiadau marchnata a symud yn dilyn trychineb Chernobyl;
  • darpariaeth deddfwriaethol i alluogi cymdeithasau'r cominwyr i reoli'r ardaloedd hyn er budd mwyafrif y ffermwyr defaid;
  • diwygio taliadau o dan y Cynllun Rhostir er mwyn adlewyrchu ac ad­dalu'r costau sydd ynghlwm wrth ddad-stocio.