STRATEGAETH FWYD

Mae ffermwyr yn dra ymwybodol o'r ffaith eu bod, fel cynhyrchwyr crai, yn cynrychioli'r ddolen gyntaf yn y gadwyn cynhyrchu bwyd. Mae diogelwch a safon bwyd Cymru yn cael eu hystyried o'r pwys mwyaf, a rhaid wrth fesurau i adfywio hyder cwsmeriaid ym mwydydd cartref. Mae yna botensial i gynyddu gwerth cynhyrchion crai y wlad, a dylid annog y fath gynlluniau er mwyn manteisio ar natur ranbarthol a delwedd werdd Cymru. 'Rydym, fel Undeb, o blaid datblygu a gweithredu Strategaeth Fwyd Gymreig o dan arweiniad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru.

Mae UAC yn argymell y dylai'r Llywodraeth nesaf:

  • arolygu'r dulliau o ddiogelu bwyd er mwyn pennu a yw'r Cyngor Bwyd newydd a'r Swyddog Diogelu Bwyd yn diwallu anghenion a chyflawni disgwyliadau'r diwydiant yn ei gyfanrwydd;
  • ddarparu adnoddau angenrheidiol er mwyn datblygu cysyniadau aswiriant fferm. Yng Nghymru, fe fedrai FAWL ddilyn yn ôl traed ei gymar Albanaidd a chyflawni statws rhyngwladol o dan UKAS;
  • ddarparu nawdd digonol er mwyn galluogi Hybu Bwyd Cymru Cyf. i hyrwyddo a gweithredu ar ran y diwydiant bwyd Cymreig; gefnogi Cynllun Achrediad Bwyd i Gymru;
  • wrthwynebu trwydded ar gyfer cynhyrchion fel Bovine Somatotropin (BST) yn y dyfodol. Dylai'r gohiriad ar BST barhau tan Fawrth 2000;
  • alw am labelu gofalus ar fwydydd yn cynnwys organeddau wedi'u haddasu'n genetig (GMOau) er mwyn caniatau i gwsmeriaid wneud dewis gwybodus.