|
Y SECTOR CNYDAU
Tra bod cyfraniad y sector cnydau'n cyfrif am ryw 3.8% yn unig o
holl gynnyrch fferm Cymru, nid yw hyn yn adlewyrchu'r cyfraniad
pwysig a wna i gynnal economďau lleol yn rhai ardaloedd. Mae UAC
yn pryderu'n fawr am rai o egwyddorion y drefn ffermio âr - yn arbennig
yr egwyddorion hynny a osodwyd ar naill ochr sydd, ar eu ffurf presennol,
yn cael eu hystyried yn anymarferol ac yn anghynaladwy.
Mae UAC yn pwyso ar y llywodraeth nesaf i:
- alw
am arolwg cynnar o drefn ffermio âr yr UE;
-
goethi'r sustem bresennol o dalu cymorthdaliadau âr fel
bo adnoddau'n cael eu targedu a'u addasu yn ôl maint y busnes;
- wrthsefyll
unrhyw bolisi sy'n galw am symud cynilion o un sector i
sector arall;

- ailwerthuso'r
modd o gyfrifo cymorthdaliadau âr i Gymru er mwyn osgoi'r
rhagfarn bresennol;
- geisio
diwygio'r rheolau newid o un i un ar gyfer tir âr gan roddi'r
rhyddid i ffermwyr gyfnewid tir a gofrestwyd (ar gyfer pwrpasau
cymorthdaliadau âr) am unrhyw dir na gofrestwyd ar y fferm;
-
sicrhau fod cymorthdalliadau âr Cymru yn cael eu talu cyn
dyddiad cau Siarter y Ffermwyr;
- ddarparu
cymhellion addas yn unol â rheolau'r UE ar gyfer datblygiadau
bioegni a'r defnydd ohonynt fel rhan o raglen i gynnal
egni.
|
|