|
MATERION TIR COMIN
Credwn fel Undeb ei fod yn bwysig cofio fod hawliau comin - yn enwedig
yr hawl i bori anifeiliaid - yn ffurfio rhan annatod o fywyd ffermio
amaethwyr Cymru.
Cred
UAC y dylid cryfhau gofynion y Ddeddf Cofrestiadau Comin er lles
y gymuned amaethyddol. Yn arbennig, dylid sefydlu system dribiwnlys,
o dan awdurdod y Comisiynwyr Tir Comin, er mwyn datrys anghydfodau
ac i ymarfer yr hawliau dros ac yng nghyswllt tir comin. At hynny,
dylai cymdeithasau'r cominwyr gael pwerau i ddiogelu a gwarchod
eu defnydd o'r comins.
Bu
camddealltwriaethau ynglyn â statws tir comin a arweiniodd at ymddygiad
anghyfreithiol ar gomins. Mae'n bwysig bod y fath broblemau'n cael
eu hwynebu er mwyn diogelu diddordebau ffermwyr a phorwyr.
COETIR
Cred
UAC fod yna botensial sylweddol i ddefnyddio coetiroedd fel modd
o gyflenwi gweithgareddau ffermio eraill. Ar hyn o bryd, mae Prydain
yn mewnforio tua 85% o'r pren sydd ei hangen ar y wlad. Mae yna
fwy o dir coediog yng Nghymru (12%) na'r cyfartaledd dros Brydain,
ond y mae'r ffigwr hwn yn parhau'n isel o'i gymharu â chyfartaledd
gwledydd eraill yr UE. Er y bu mymryn o gynnydd yn y nifer o goed
a blannwyd, mae'n go anhebygol y bydd hyn yn effeithio ar fewnforion
coed Prydain nac yn cynorthwyo i gynnal cymunedau mwyaf bregus Cymru.
Mae
UAC yn galw ar y Llywodraeth i:
-
fabwysiadu strategaeth ranbarthol eglur ar gyfer sefydlu
a datblygu coedwigoedd a choedlannau yng Nghymru;
-
gefnogi argymhelliad Grwp Arolygu yr Is-Ysgrifennydd Gwladol
dros Gymru a gynhwysir yn "Y Ffordd Ymlaen i Goedwigaeth
Cymru", sy'n galw am fwy o gysondeb rhwng cymorth amaethyddol
a choedwigol er mwyn annog cyfuniad y ddau ddiwydiant;
- gynyddu'r
grantiau ar gyfer plannu ac ail-stocio coetiroedd; gynnal
arolwg pellach ar y cymhellion blynyddol a ddarperir o dan
Gynllun Cymhorthdal y Coetir (WGS) a Chynllun Premiwm y
Coetir Fferm (FWPS), gyda'r bwriad o gynyddu lefel y taliadau
blynyddol;
- gadarnhau
ei chefnogaeth i weithgareddau Coed Cymru a'r aildyfiant
o goetiroedd fferm yng Nghymru.
|
|