Y SECTOR CIG EIDION

Byddai sector cig eidion Cymru, o dan amgylchiadau masnachu arferol, yn cyfrannu tua 30% i holl gynnyrch fferm y wlad, ond o ganlyniad i'r argyfwng BSE ym 1996 fe danseiliwyd gwerth ffermio cig eidion yng Nghymru. Ffermio da byw yw'r unig fusnes sy'n agored i ffermwyr mewn rhannau helaeth o Gymru, ac fe droir at ffermio cig eidion a defaid yn aml fel busnes cyflenwol er mwyn gwella rheolaeth pori. Cig eidion o safon wedi'i fagu ar borfa a gynhyrchir yng Nghymru gan bennaf, ac fe gyniga hyn gyfle marchnata na fanteisiwyd arno'n llawn hyd yma.

Mae UAC yn galw ar y Weinyddiaeth nesaf i:

  • anelu at godi'r gwaharddiad ar allforion cig eidion i wledydd Ewrop a'r Trydydd Byd fel mater o frys;
  • weithredu rhaglen gig eidion a fydd yn galluogi'r diwydiant cartref i ailsefydlu ei hun fel y prif gynhyrchwr o gig eidion diogel, o safon ar y farchnad gydwladol;
  • ofalu bod yr un safonnau a'r un rheolau'n cael eu hymarfer ar draws yr UE a'u cymhwyso i allforion y Trydydd Byd er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg;
  • wrthwynebu unrhyw gamau i ad-drefnu'r diwydiant cig eidion cartref cyn yr arolwg ar drefn gig eidion yr UE;
  • sicrhau bod diddordebau a lles ffermwyr cig eidion Prydain yn cael eu hystyried pan gychwynna'r trafodaethau ar drefn gig eidion y PAC gan bwysleisio'r angen am gymorth tymor hir wedi'i targedu;
  • gynorthwyo'r diwydiant i fanteisio ar ragoriaethau a delwedd maethlon cig eidion Cymreig ac i gynyddu gwerth y cig eidion a gynhyrchir yng Nghymru.