|
IECHYD A LLES ANIFEILIAID
Mae didwylledd y diwydiant da byw sector y mae amaethyddiaeth
Cymru yn dibynnu'n fawr arno yn galw am safonnau iechyd a lles
anifeiliaid tynn o'r safon uchaf. Cymeradwywn reolau ymddygiad a
phum rhyddid FAWC er mwyn diogelu lles anifeiliaid.
Cred
UAC:
- y
dylid cyflwyno deddfwriaeth resymol ac ymarferol er mwyn
sicrhau'r safonnau uchaf o les anifeiliaid cyn gynted â
bo modd, er enghraifft, deddfwriaeth ynglyn â lles anifeiliaid
wrth deithio;

-
fod angen ymarfer yr un safonnau ar draws yr UE er mwyn
sicrhau na chaiff Prydain ei gosod o dan anfantais cystadleuol;
-
mai ar sail dadleuon gwyddonol ac nid syniadau emosiynol
am les anifeiliaid y dylid gwneud penderfyniadau am reoli
clefydau;
-
na ddylid atal ffermwyr rhag cael mynediad i ddewis eang
o gynhyrchion PML a meddyginiaethau presgripsiwn yn unig;
-
y dylid sicrhau fod gan y gwasanaeth milfeddygol ddigon
o lafur ac adnoddau ariannol i ddiogelu'r diwydiant rhag
clefydau endemig ac anghysefin;
-
fod angen darparu adnoddau digonol ar gyfer rhaglenni ymchwil
o blaid dulliau ataliol a dulliau gwellhaol o reoli clefydau;
- rhaid
i ffermwyr gael yr hawl i ddylanwadu ar fesurau difa pla.
Dylai'r Llywodraeth gadw statws rhywiogaethau gwarchodedig
Prydain dan sylw;
-
tra y dylid caniatau prosesau sy'n galluogi anifail i wireddu
ei botensial genetig, dylid gwrthwynebu addasu genetig sy'n
codi cwestiynau moesol, yn ogystal ag ystyriaethau economaidd,
cymdeithasol a chyfreithiol.
|
|