|

MESURAU AMAETH-AMGYLCHEDDOL
Cyflwynwyd nifer o gynlluniau amaethamgylcheddol fel rhan o'r mesurau
i ddiwygio'r PAC, ac yn awr y mae dwy ran o dair o gefn gwlad Cymru
wedi'i dynodi fel safleoedd o ryw bwysigrwydd amgylcheddol/ cadwraethol.
Er bod y mesurau i ddiwygio'r PAC yn ôl yn 1992 wedi effeithio ar
bob ffermwyr yng Nghymru, ychydig iawn ohonynt a fedrai fanteisio
ar y cynlluniau hyn a lansiwyd gyda'r bwriad o ddiwygio'r sectorau
cynhyrchu.
Mae
UAC yn galw ar y llywodraeth nesaf i:
- ddefnyddio'r
arolwg presennol ar gynlluniau amaethamgylcheddol yng Nghymru
i ddarparu'r cyfle i ffermwyr Cymru gael mynediad, yn wirfoddol,
i fesurau amaethamgylcheddol pa le bynnag bônt yn byw;
- symleiddio
cymhlethdod y sefyllfa yng Nghymru gan ad-drefnu a chyfuno'r
plethora o gynlluniau yn un Cynllun AmaethAmgylcheddol
dros Gymru Gyfan;
-
ddarparu nawdd digonol i sicrhau lefel rhesymol o gymorth
er mwyn annog ffermwyr i ddarparu buddiannau amgylcheddol
positif o dan Gynllun AmaethAmgylcheddol dros Gymru Gyfan;
-
adnabod y buddiannau economaiddgymdeithasol a all ddeillio
o gynlluniau gwarchod cefn gwlad, yn ogystal â'r buddiannau
cadwraethol ac amgylcheddol uniongyrchol; gynorthwyo ffermwyr
sy'n wynebu costau buddsoddi trwm yn sgîl mesurau wedi'u
llunio er mwyn atal llygredd.
|
|