AMAETHYDDIAETH AC ECONOMI GWLEDIG CYMRU
Yn ei gynrychiolaethau i'r Llywodraeth ac i'r UE, dadleuodd UAC dros fabwysiadu agwedd mwy integredig tuag at bolisi gwledig sydd ar hyn o bryd yn ddarniog.

Cred UAC:

  • fod ardaloedd gwledig mor bwysig i Gymru a'i heconomi fel y dylid sefydlu Adran Materion Gwledig er mwyn cyfuno gwahanol agweddau'r polisi yn fwy effeithiol;
  • fod yna achos dros gael asiantaeth i ganolbwyntio'n llwyr ar ddatblygu Cymru wledig gyda chyfrifoldebau ehangach yn cwmpasu amaethyddiaeth a lles holl ardaloedd gwledig Cymru;
  • fod diwydiant amaethyddol cadarn yn allweddol i barhad ardaloedd gwledig, er fod yr UE, yn ôl pob golwg, yn gosod llai o bwyslais ar rôl amaethyddiaeth yn yr economi gwledig. Byddai dirywiad y diwydiant yn dal goblygiadau economaidd­gymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol pellgyrhaeddol;
  • y dylai amaethyddiaeth barhau'n ganolog i weithgarwch ardaloedd gwledig Cymru ac y dylai gael ei gefnogi trwy gyfuniad o fesurau i gyfyngu dirywiad pellach y diwydiant ­ hynny, law yn llaw â rhaglen i ddatblygu cyfleoedd gwaith ar ac oddi ar y fferm;
  • fod gan raglenni datblygu rhanbarthol ran bwysig i'w chwarae yng nghynnal y boblogaeth wledig, ond rhaid i gymorth amaethyddol datgyplol barhau fel rhan annatod o'r strategaeth gyflawn;
  • tra bod datblygu gwledig yn galw am ddull "o'r gwaelod i fyny" fel y darparwyd ar ei gyfer yn amcan 5b a'r rhaglenni LEADER, dylent gael eu hanelu at gynlluniau sy'n cynorthwyo'r gymuned yn uniongyrchol;
  • na ddylai unrhyw benderfynaid i leihau'r pwyslais ar y gwarant i adran gynghori FEOGA ragfarnu'n erbyn incwm amaethyddol yn absenoldeb unrhyw weithred arall i greu elw.