Yr Adran Bolisi

Welsh farm landscape

Croeso i wefan adran Bolisi Undeb Amaethwyr Cymru.

 

Mae adran bolisi UAC wedi ei leoli yn y brif swyddfa ym Mhlas Gogerddan ac yn gyfrifol am arwain a chydosod sylwadau'r aelodau trwy'r un ar ddeg swyddfa sirol sydd gan yr Undeb a'r deng pwyllgor polisi.

 

Mae staff yr adran yn arolygu'r datblygiadau diweddaraf o fewn y byd amaethyddol yn gyson er mwyn cynghori a phwyso ar adrannau a chyrff sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar amaethyddiaeth Gymreig.

 

Dyma rai o'r materion sy'n cael sylw gan yr adran:

  • Polisi Gwledig cyffredinol
  • Y Cynllun Datblygu Gwledig (yn cynnwys Echel 2 sef Amaeth-Amgylchedd, Tir Mynydd, Glastir a'r Cynllun Grantiau Coetir.
  • Polisi Amaethyddol Cyffredin
  • Twbercwlosis mewn gwartheg
  • Deddfwriaeth Ewropeaidd
  • Clefydau Endemig
  • Lles Anifeiliaid a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
  • Clefydau Egsotig a Chynlluniau wrth Gefn
  • Y strategaeth iechyd a lles anifeiliaid
  • Cludiant ac Adnabod Anifeiliaid
  • Polisi Coedwigaeth
  • Tir Comin
  • Y Gyfarwyddeb Dŵr (yn cynnwys ardaloedd sy'n agored i nitrogen)
  • Cynllun y Taliad Sengl
  • System Integredig Rheolaeth Weinyddol
  • Tenantiaeth Fferm
  • Ymchwil a datblygiad amaethyddol
  • Iechyd planhigion
  • Bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
  • Newid yn yr hinsawdd
  • Diogelu'r Amgylchedd
  • Cyswllt Ffermio
  • Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm
  • Rhannu cyfrifoldebau a chostau
  • Hela a rheoli plâu
  • Cynllunio
  • Datblygiad Bwyd a Marchnad
  • Gofynion rhwymo cig
  • Twristiaeth Fferm
  • Arallgyfeirio ar ffermydd
  • Cymorthdaliadau Allforio a Thariff Mewnforio
  • Trawsgydymffurfio
  • Ardaloedd Llai Ffafriol a Thir Mynydd
  • Addysg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Rheolaeth ar wastraff
  • Sefydliad Masnach y Byd
  • Cerbydau a Thrwyddedau

 

Mae'r adran hefyd yn gweithio'n agos gydag adran wasg yr Undeb er mwyn datblygu ymgyrchoedd i ddenu sylw at y rhan allweddol mae amaethyddiaeth yn chwarae i ddiogelu amgylchedd Cymru a chynnal cymunedau a diwylliant gwledig.

 

Am ragor o wybodaeth ar bolisïau'r Undeb, ewch i'n hadran Dogfennau Polisi.