Newyddion Diweddaraf UAC Meirionnydd

LLYFR HUNANGOFIANT JOHN MORRIS

16/01/2012 00:00

Dyma ni bellach ychydig dros wythnos i fewn i’r flwyddyn newydd, ac yng nghanol prysudeb mawr yn y Swyddfa Sirol. Yn ddi os, y prif bwnc dan sylw yw adolygiad y Polisi Amaeth Cyffredin, ac yn arbennig y papur trafod a gyhoeddwyd ar 19 o Ragfyr 2011 gan Alun Davies ar y ffordd ymlaen i Gymru, lle mae angen ymatebion erbyn diwedd mis Mawrth. Mae’n siwr y bydd hwn yn un o’r pynciau pwysicaf fydd ar y gweill yng Nghyfarfod Blynyddol yr Undeb sydd i’w gynnal yng Ngwesty’r Ship, Dolgellau, Nos Wener 27ain o Ionawr pryd y bydd Alun Davies gyda ni. Bydd hon yn sicr yn noson bwysig dros ben inni fel Undeb.

DYFODOL Y CYNLLUN GLASTIR

01/04/2011 00:00

Y prif bwnc trafod ymysg ffermwyr y dyddiau hyn yw’r cyhoeddiad pwysig a gafwyd yr wythnos diwethaf ynglŷn â dyfodol y Cynllun Glastir. Bu llawer o sylw i’r pwnc yma yn ystod 2010, a chofiwn i Elin Jones, y Gweinidog Amaeth gyhoeddi ar y 23ain o Dachwedd y byddai yna adolygiad annibynnol o ‘Elfen Cymru Gyfan’ y cynllun yng ngwyneb y nifer siomedig a oedd wedi ymgeisio. Cofiwn maI ychydig o dan 3000 o geisiadau a gafwyd i mewn drwy Gymru, ac mae’n bwysig pwysleisio hefyd fod yna gwestiwn mawr wedi ei godi ynglŷn â dilysrwydd llawer ohonynt. Sefydlwyd y pwyllgor dan gadairyddiaeth Rees Roberts, y ffermwr o Lanraedr ym Mochnant, a bu raid i’r grwp weithio’n galed dros gyfnod byr i gael atebion. Mae’n cynnwys 69 o argymhellion i wella a symleiddio’r cynllun, a’i wneud yn fwy atyniadol i ffermwyr. Erbyn hyn cawsom ymateb Llywodraeth y Cynulliad i’r argymhellion gyda 48 o’r pwyntiau yn cael ei derbyn yn ddi amod, 11 yn cael ei derbyn yn rhannol a 10 o’r argymhellion yn cael eu gwrthod ond y bydd ystyriaeth iddynt yn y lefel uwch o’r cynllun.

edrych ymlaen am 2011

05/01/2011 00:00

Dyma ni ar ddechrau blwyddyn newydd, gyda chyfle wedi bod dros yr wythnosau diwethaf i edrych yn ôl ar ddigwyddiadau y diwydiant amaeth yn y flwyddyn a aeth heibio, ac yn bwysicach yn awr edrych ymlaen at beth sydd ar y gweill yn 2011.

Meirionnydd

Swyddfa'r Sir: Ty Mawr, Llys Owain, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1AF.

Ffôn: 01341 422298. Ffacs: 01341 423829.

Cadeirydd y Sir

 

Mrs Olwen Ford

Llan Farm

Llanfrothen

Penrhyndeudraeth

Gwynedd

LL46 ODU 

Tel: 01766 770399

Swyddog Gweithredol Sirol

Huw Jones BA, Henllys, Mallwyd, Machynlleth, SY20 9HS. Ffôn: 01650 531405 Ffôn Symudol: 07974 795778

 

 

 

Swyddogion Ardal

Dei Jones, Tan y Bryn, Llanuwchllyn, Gwynedd, LL23 7TY.    Ffôn: 01678 540295  Ffôn symudol: 07860 382223

 

Bethan Roberts, Gwasanaethau Yswiriant UAC, Tŷ Mawr, Llys Owain, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1AF.  Ffôn: 01341 421290  Ffôn symudol: 07786 564164

 

Eirian Lloyd Hughes, Gwasanaethau Yswiriant UAC, Tŷ Mawr, Llys Owain, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1AF.  Ffôn: 01341 421290  Ffôn symudol: 07921 088134

E-bostiwch swyddfa Meirionnydd

*
*
*