Pwyllgor Da Byw, Gwlan a Marchnadoedd
Mae'r cynhyrchiant o gig coch yn cyfrannu dros 40% o'r cyfanswm terfynol blynyddol o allbwn amaethyddiaeth Cymru ac mae'n werth dros £350 miliwn. Yn cael ei ddosbarthu ar draws Cymru, mae ffermydd cig eidion a defaid yn cyflogi dros 65,000 o bobl ac yn chwarae rhan hanfodol i gefnogi'r economi wledig. Mae cynhyrchiant da byw Cymru yn elwa o'r hinsawdd gwlyb Cymreig, ansawdd y tir pori a pharhad y ffermydd teuluol traddodiadol. Mae gan y diwydiant le gwerthfawr yn rheolaeth gynhaliol adnoddau Cymreig a'r chadw a chynnal y tirwedd gwledig. Mae Pwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd UAC yn ymdrin â'r holl faterion sy'n berthnasol i ddiwydiannau da byw a gwlân. Cadeirydd y Pwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd yw Mr Aeron Prysor Jones, ffermwr cig eidion a defaid ger Bala ym Meirionnydd.

