Swyddogion Ardal
Mae 30 o Swyddogion Ardal wedi cael eu lleoli ar draws Cymru ac maent yn gwasanaethu anghenion aelodau'r Undeb ac yn gwerthu gwasanaethau ariannol. Mae pob Swyddog Ardal yn gyfrifol am ardal ddaearyddol benodedig o fewn pob sir.
Canfod aelodau newydd ar gyfer yr Undeb a gwerthiant a gwasanaethu anghenion yswiriant cyffredinol y gymuned wledig yw'r pwrpas sylfaenol. Mae'r Swyddog Ardal yn asesu gofynion ac anghenion cwsmeriaid newydd a'r rhai presennol ac yn eu cynghori ar y cynnyrch yswiriant sydd fwyaf priodol i gwrdd â'r gofynion hynny.
Maent wedi derbyn hyfforddiant yswiriant perthnasol ac yn cael eu harchwilio un unol a gofynion yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ac yn meddu ar lefelau uchel o sgiliau rhyngbersonol er mwyn adeiladu perthynas fusnes sy'n gweithio dwy ffordd.
I'r rhan fwyaf o aelodau, Swyddog Ardal yw cynrychiolaeth Undeb Amaethwyr Cymru