Ffermwyr Sir Ddinbych yn cynnal brecwast ffermdy llwyddiannus

Er mwyn hyrwyddo manteision iechyd a hefyd yr amrywiaeth o gynnyrch brecwast o safon uchel sydd ar gael yng Nghymru, cynhaliodd cangen Sir Ddinbych o Undeb Amaethwyr Cymru frecwast ffermdy ar ddydd Sadwrn, Ionawr 27 yn Neuadd Bentref Llansannan.

Cododd y brecwast, a drefnwyd fel rhan o ymgyrch wythnos brecwast Ffermdy UAC, £800 ar gyfer achosion elusennol yr Undeb - Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r Farming Community Network (FCN).

Dywedodd Mari Dafydd Jones, Swyddog Gweithredol UAC Sir Ddinbych: “Daeth nifer o bobl ynghyd, gyda chefnogaeth dda gan ein haelodau.  Beth well na phryd da o fwyd i ddod a phobl ynghyd i rannu syniadau a dyna'n union beth wnaethom ni gyda'n brecwast.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd a chynorthwyodd ar y diwrnod, gan gynnwys Cigydd - Clwyd Dowell, J Williams 'Blas Da', J H Jones a'i gwmni, AL & RO Jones, Llanrwst, C Williams, Llandyrnog, yn ogystal â Llaeth y Llan, Bara Henllan, Wyau Clyttir, Co-op Dinbych a Llanrwst, Siop Llangernyw, Bys a Bawd, Spar Llanrwst ac Aldi Dinbych.”