UAC yn croesawu adroddiad y Gr?p Hollbleidiol ar ymosodiadau ar Dda Byw

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan All Party Group on Animal Welfare (APGAW) sy'n adolygu'r broblem barhaol o ymosodiadau ar dda byw ac yn anelu at sicrhau bod perchnogion c?n yn fwy cyfrifol.

Ymhlith y materion a archwiliwyd oedd y diffyg o ddewisiadau arall priodol pan nad oes yna fannau gwyrdd a'r anhawster wrth erlyn y rhai sy’n troseddu o hyd.

Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi UAC: "“Mae ymosodiadau ar dda byw yn parhau i fod yn bwnc pwysig i’n haelodau, ac rydym wedi cyhoeddi dro ar ôl tro'r difrod eang y gall ymosodiadau c?n ei achosi."

Tynnwyd sylw at y problemau emosiynol ac ariannol a achoswyd gan ymosodiadau ar dda byw gan UAC yn ystod nifer o sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gan APGAW yn Llundain.

"Mae'r materion y tu ôl i g?n sy'n ymosod ar dda byw yn gymhleth,  ac mae'n rhwystredig, er gwaethaf buddsoddiad sylweddol yn y diwydiant,  mae llawer iawn o’r cyhoedd yn parhau i fod yn anymwybodol y gall eu hanifail anwes ymosod, anafu neu ladd da byw,” ychwanegodd Dr Wright.

Mae'r adroddiad yn dangos y dylid cadw c?n o dan rheolaeth yn briodol a lleihau ymddygiad risg uchel o amgylch da byw fod yn brif ffocws wrth geisio lleihau nifer yr ymosodiadau gan g?n.

“Fel yr amlygwyd gan yr APGAW, mae llawer o ymosodiadau c?n yn digwydd gan g?n sydd ar ben eu hunain,  sydd wedi crwydro o'r cartref a dim ond rhan fach o’r ateb yw ein negeseuon am gadw c?n ar dennyn o amgylch da byw. Felly, croesawn yr alwad am ymchwil i wraidd  ymddygiad gwael ymhlith c?n, " ychwanegodd.

Mae diffyg adrodd achosion yn golygu bod gwir effaith o ymosodiadau ar dda byw yn parhau i fod yn anhysbys ac mae'n debyg bod llawer iawn o achosion ddim yn cael eu hadrodd. Fodd bynnag, lle mae gwybodaeth wedi cael ei gasglu, mae'r ffigurau'n dangos y gallai ymosodiadau ar dda byw fod yn costio tua 1.3 miliwn o bunnoedd y flwyddyn i’r diwydiant defaid, ac mae hyn yn swm sylweddol o arian ar gyfer sector sy'n parhau i ddioddef o broffidioldeb isel.

"Mae colledion busnes yn cynnwys colli stoc, cynhyrchu'n lleihau oherwydd straen ar yr anifeiliaid, erthyliadau a cholli elw o stoc yn y dyfodol.  Gall y costau hyn fod yn sylweddol ac yn cael eu cyfuno â chostau yswiriant, biliau milfeddygol a gwaredu carcasau.

"Mae cefn gwlad yn lle i'w fwynhau ac mae'r rhan fwyaf o'r cyhoedd yn defnyddio cefn gwlad heb fod dim yn digwydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ffermwyr allu amddiffyn eu hanifeiliaid a diogelu eu busnesau ac mae'n bwysig bod canfyddiadau'r adroddiad hwn bellach yn cael eu troi’n gamau cadarnhaol” ychwanegodd Dr Wright.