UAC yn edrych ymlaen at Ffair Aeaf Frenhinol Cymru prysur

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2017 hynod o gyffrous, sydd i’w chynnal dydd Llun 27 Tachwedd a dydd Mawrth 28 Tachwedd ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Gwahoddir aelodau i ymweld  â stondin yr Undeb, sydd gerllaw’r prif gylch arddangos, er mwyn trafod materion #AmaethAmByth lle bydd lluniaeth ysgafn ar gael a croeso cynnes i bawb.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein haelodau a ffrindiau i stondin UAC a gobeithio gweld nifer ohonoch yno.

“Bydd ein staff a swyddogion yn bresennol i drafod unrhyw gwestiynau sydd gyda chi yngl?n â materion #AmaethAmByth, gan gynnwys rheolau newydd y rhaglen TB, arallgyfeirio ac unedau cwarantin.”

Dydd Llun 27 Tachwedd, bydd aelodau’n trafod y pryderon ynghylch Brexit ac amaethyddiaeth gyda’r Pwyllgor Materion Cymreig.

Bydd digwyddiadau arall ar y dydd Llun yn cynnwys lansio ‘Canllaw i Arallgyfeirio’ UAC ar stondin UAC am 11yb.  Bydd y canllaw yn pwysleisio’r meysydd i'w hystyried, megis materion cyfreithiol a goblygiadau treth, yn ogystal â chynnwys astudiaethau achos gan aelodau'r Undeb sydd eisoes wedi arallgyfeirio.

Yn ogystal â hyn, cynhelir seminar dau ddiwrnod gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ar ymosodiadau ar dda byw sy’n cael eu cynnal ym mhafiliwn UAC ar Faes y Sioe Frenhinol.

Bydd y seminarau'n dechrau am 2yp a bydd Hope Rescue yn ymuno â UAC i siarad am 'Hyfforddiant ac Ymddygiad C?n' a bydd Association of Pet Behaviour Counsellors (APBC) yn sôn am 'Hyfforddi eich ci ac ymosodiadau ar dda byw’

Dydd Mawrth, 28 Tachwedd, ym mhafiliwn UAC, bydd UAC yn cynnal seminar arall ar ymosodiadau ar dda byw, a fydd hefyd yn dechrau am 2yp, gyda Heddlu Gogledd Cymru yn son am ‘G?n yn ymosod ar dda byw’ ac yn clywed gan Gwyn Thomas, ffermwr defaid ac aelod UAC am eu brofiadau ef o ymosodiadau ar dda byw ar y fferm.

Dywedodd Uwch Swyddog Polisi UAC Dr Hazel Wright, sy’n cadeirio’r seminarau ymosodiadau ar dda byw: “Mae ymosodiadau ar dda byw yn parhau i fod yn bwnc pwysig i’n haelodau.  Mae’r seminarau hyn yn cynnig cyfle i drafod y pwnc o safbwynt y ffermwr, yr heddlu ac elusennau lles ac ymddygiad anifeiliaid ac rydym yn falch dros ben o fedru cynnal y digwyddiad hollbwysig yma.”

I godi ymwybyddiaeth o’r peryglon o weithio gydag anifeiliaid mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio yn cynnal Gweithdai ar Drin Gwartheg yn Ddiogel yn ystod y Ffair Aeaf eleni.

Lleolir y gweithdai drws nesaf i adeilad Lantra, yn cael eu cynnal gan hyfforddwyr Lantra ac am ddim i bawb sydd am ddysgu mwy am sut i drin gwartheg yn ddiogel er mwyn osgoi niwed i’r anifail, ac yn fwy pwysig i bobl.

Bydd y gweithdai’n para am oddeutu 20 munud ac yn cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod ar yr amseroedd hyn:-

  • 10.30yb
  • 11.30yb
  • 1.30yp
  • 2.30yp

Dywedodd Huw Jones, cynrychiolydd UAC ar Gr?p Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: “Mae hyn yn gyfle gwych i ddysgu ffurf newydd o drin gwartheg, a fydd gobeithio yn gymorth i osgoi unrhyw niwed a damweiniau dianghenraid, ac rwyf am annog unrhyw un sy’n trin gwartheg i gymryd mantais o’r gweithdai gwych hyn.”

Hefyd, mae yna gyfle i ennill Hamper o Fwydydd Nadoligaidd Cymreig gwych, a bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar brynhawn dydd Mawrth y sioe.  Dewch draw i’r stondin am gyfle i’w hennill!