UAC yn chwilio am enwebiadau am wasanaeth neilltuol i’r diwydiant llaeth Cymreig

Unwaith yn rhagor, mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad neilltuol i ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant yng Nghymru.

Er mwyn cydnabod y fath wasanaethau, mae’r Undeb yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y wobr ar gyfer gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig UAC/HSBC.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi, a’r wobr yn cael ei chyflwyno yn Sioe Laeth Cymru sydd i’w chynnal yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth Hydref 24.

David Waters

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae yna nifer o unigolion teilwng iawn yng Nghymru sy’n haeddu’r wobr yma, ac wrth edrych nôl, rydym wedi cael enwebiadau ac enillwyr teilwng iawn.  Felly os ydych yn ymwybodol o berson yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol ohono yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu nhw ar gyfer y wobr urddasol hon.”

Mae cyn enillwyr y wobr yn cynnwys cyn Lywydd UAC Sir Gaerfyrddin Ogwyn Evans yn 2008; ffermwr o Sir Gaerfyrddin Bryan Thomas - cyn aelod o gyngor Cymdeithas Holstein Friesian a sylfaenydd Sioe Laeth Cymru yn 2009, ffermwr llaeth o Sir Fflint Terrig Morgan, sylfaenydd y gr?p trafod llwyddiannus ar gyfer cynhyrchwyr llaeth ifanc yn Sir Fflint sydd bellach yn cael ei redeg gan DairyCo, “The Udder Group” yn 2010; Cadeirydd DairyCo Tim Bennett yn 2011; cyn Gadeirydd Pwyllgor Llaeth UAC Eifion Huws o Ynys Môn yn 2012; cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Lloegr a Cymru Mansel Raymond yn 2013; ffermwr o Wynedd Rhisiart Tomos Lewis yn 2014; perchennog Daioni Organig Laurence Harris yn 2015 a Gareth Roberts o Llaeth y Llan yn 2016.

Dylai’r enwebiadau fod ar ffurf llythyr yn rhoi manylion llawn gwaith a chyflawniadau’r enwebedig a’i anfon i Swyddfa UAC Sir Gaerfyrddin, 13a Barn Road, Caerfyrddin, SA31 1DD cyn dydd Gwener Hydref 6.