Pwyllgor Ffermio Mynydd a Thir Ymylol

Picture of Derek Morgan
Derek Morgan

Mae 80% o Gymru'n cael ei ddynodi fel tir Llai Ffafriol, ac o hynny mae 28% yn cael ei alw'n ardal dan anfantais tra bod 72% yn ardal o dan anfantais fawr.

 

Mae Ardaloedd Llai Ffafriol a dosbarthiad ardaloedd eraill wedi chwarae rhan allweddol yng nghanaliaeth y cymunedau mynydd-dir Cymreig ac amgylcheddau am nifer o ddegawdau.

 

Mae'r pwyllgor ffermio mynydd a thir ymylol yn trafod nifer o faterion sy'n arbennig o berthnasol i gymunedau ffermio mynydd Cymru yn cynnwys Tir Mynydd, stoc trig ac adnabod defaid.

 

Cadeirydd y Pwyllgor yw Derek Morgan, ffermwr sy'n cadw defaid a gwartheg yn Sir Faesyfed, Mae Mr Morgan hefyd yn gadeirydd ar Fforwm yr Ucheldir Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn aelod o Bwyllgor yr Asiantaeth Safonau Bwyd sef Cynghori ar Fwyd Cymru.