Gwasanaethau Yswiriant UAC
Mae Gwasanaethau Yswiriant UAC yn cael cefnogaeth gan banel o gwmnïau yswiriant amaethyddol a masnachol arbenigol. Mae'r tîm o 30 Swyddog Ardal (cynrychiolwyr) a 2 Rheolwr Rhanbarth yn gweithio'n agos gyda chi i wneud yn siŵr bod gyda chi'r gorchudd priodol i ddiogelu eich busnes. Mae cyfraddau cystadleuol ar gael ar gyfer holl anghenion yswiriant gwledig, o'r fferm a cheffylau i gontractwyr, adeiladwyr, siopau, gwestai a thafarndai, busnesau bach a chanolig, hamdden, adeiladau gwag a rhai i'w gosod, coedwigoedd, cerbydau masnachol, tacsis a cherbydau i'w llogi a phob gweithgaredd arallgyfeiriol. Hefyd, mae gennym ystod eang o gynnyrch ar gyfer cartrefi preifat a cherbydau yn cynnwys gorchudd uchel ei werth. Cysylltwch gyda Swyddog Ardal a fydd yn medru ymweld â'ch fferm neu fusnes i asesu eich gorchudd yswiriant a pharatoi pris. Does dim angen unrhyw alwad ffôn dros bellter, dim ond gwasanaeth lleol proffesiynol gyda'ch lles chi mewn golwg. Mae'n staff ni yn deall anghenion y gymuned wledig ac yn barod pan fyddwch eu hangen. Mae yna Swyddog Ardal yn lleol i chi.