FarmWeb

Mae FarmWeb yn gwmni sy'n ymroi i gwrdd â anghenion y ffermwr trwy rwydwaith cenedlaethol o ganolwyr yswiriant amaethyddol detholedig sy'n cynrychioli eich lles chi ac yn darparu gwasanaeth lleol o'r safon gorau, nid yn unig wrth drefnu'ch polisi yswiriant fferm ond wrth ymdrin gyda cheisiadau ar eich rhan.

Mae'n canolwyr ni yn deall y ffordd mae ffermydd wedi newid ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cynnyrch a'r gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i gwrdd â gofynion y ffermwyr ac amaethyddiaeth yn y dyfodol.

Mae Farmweb yn rhwydwaith cenedlaethol o ganolwyr amaethyddol sydd wedi cael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.  Caiff polisïau eu tanysgrifennu a'i gweinyddu gan NIG, sy'n rhan o The Royal Bank of Scotland Group sydd hefyd wedi'i awdurdodi a'i rheoli gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

 

 

.