Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth

Dei Davies
Dei Davies

Mae allbwn gros cynhyrchwyr llaeth Cymreig yn cynrychioli oddeutu 27% o gyfanswm allbwn amaethyddiaeth Cymru ac mae’n werth dros £270 miliwn.

 

O’r 2,300 o gynhyrchwyr llaeth sydd yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf yn yr hen siroedd o Dyfed a Clwyd, er mae godro’n parhau i fod yn bwysig mewn rhai ardaloedd eraill megis Penrhyn Llyn ac Ynys Môn.

 

Mae Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth UAC yn trafod yr holl faterion sy’n berthnasol i odro, a’r gadwyn gyflenwi llaeth, yn cynnwys twbercwlosis mewn gwartheg (bTB).

 

Mr Dei Davies yw Cadeirydd y Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth.  Mae Mr Davies, sy’n 61 mlwydd oed, yn ffermio oddeutu 100 cyfair ar Fferm Moor, Treffynnon, daliad ar rent o’r cyngor sir a 53 cyfair ychwanegol fel tir ar rent dros dro.

 

Ynghyd â’i wraig Heulwen, mae’n cadw buches oddeutu 110 o wartheg godro Friesian.  Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth ddegawd yn ôl, ond mi gamodd lawr o’r swydd, ac fe’i ddilynwyd gan Eifion Huws, ffermwr llaeth o Ynys Môn yn 2004.

 

Gadawodd Mr Davies yr ysgol pan oedd yn 15 mlwydd oed, ond mi enillodd gymhwyster NCA yng ngholeg Llysfasi ym 1970-71 ac mi roedd yn rhan o’r mewnlif cyntaf o fyfyrwyr yng Ngholeg Amaethyddol Cymreig ym 1971 lle enillodd OND.