Ymgyrchoedd
Mynnwch Gynnyrch Lleol
Cafodd ymgyrch "Mynnwch Gynnyrch Lleol" UAC ei lansio yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn 2007 yn dilyn cyhoeddiad o ffigyrau gan Defra a ddangosodd gostyngiad dramatig mewn bwydydd a diodydd hunangynhaliol y DU dros y deng mlynedd diwethaf.
Rhwng 1995 a 1997, roedd Prydain yn 70% yn hunan gynhaliol o ran bwyd, ond syrthiodd y ffigwr hyn i oddeutu 58% erbyn 2006. Yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd mewnforion bwyd, dwysfwyd a diod i mewn i'r DU o werth £16,904 miliwn i £23,429 miliwn, tra syrthiodd y cyfran o allforion bwyd, dwysfwyd a diod ar gyfer yr un cyfnod o 6.1% (yn werth ond £9,903 miliwn) i 4.7% (£9,942 miliwn).
Yn y cyfamser, roedd nifer o aelodau a chefnogwyr UAC yn cynhyrchu bwyd a diod eu hunain.
Mae yna nifer cynyddol o gynnyrch fferm o ansawdd uchel nawr ar gael mewn marchnadoedd ffermwyr, siopau cornel, ar y we a hyd yn oed mewn rhai archfarchnadoedd.
Mae'n ffaith drist bod yn rhaid i'r cwsmer chwilio am y fath gynnyrch mewn archfarchnadoedd er eu bod nhw'n ymwybodol bod yn rhaid iddynt, o safbwynt moesol, gynnig cynnyrch lleol.
Lansiodd UAC yr ymgyrch ar ôl derbyn caniatâd oddi wrth Spartacus, gwneuthurwyr brechdanau yn Aberystwyth i ddefnyddio'r slogan "The Welsh One", sef yr enw ar un o'i cynnyrch mwyaf poblogaidd sef caws cheddar Eryri, Ham Ceredigion a choleslaw cartref o fewn bara brown.


