Hanes UAC

Welsh Landscape

Un nôd sylfaenol sydd gan Undeb Amaethwyr Cymru sef amddiffyn a gweithredu ar ran buddiannau amaethwyr Cymru.

 

Yn Undeb annibynnol gyda'r hawl a'r rhyddid i weithredu drosti ei hun, fe all UAC ddatgan safbwyntiau ffermwyr Cymru yn ddiduedd, ac yn ddiymatal rhag materion adrannol.

 

Sefydlwyd UAC ym 1955 pan dderbyniodd yr hawl swyddogol gan y Llywodraeth i gynrychioli a siarad ar ran amaethwyr Cymreig.  Gwnaethpwyd hyn a sicrhaodd yr Undeb bod safbwyntiau ffermwyr yn cael eu lleisio gerbron y lefelau uchaf posib - yn y Cynulliad Cenedlaethol, Llywodraeth San Steffan ac ym Mrwsel.

 

  • Mae gan UAC rwydwaith o swyddfeydd sirol a lleol ledled y wlad.
  • Mae swyddogion arbenigol UAC yn darparu cyngor lleol o'r safon uchaf.
  • Er bod y rhyddid gyda ni i lunio polisïau annibynnol, rydym bob amser yn barod i gydweithio gydag eraill er lles y diwydiant amaeth yng Nghymru.
  • Mae gan UAC bwyllgorau sefydlog sy'n cwrdd yn rheolaidd i drafod materion sydd o bwys i ffermwyr Cymru.
  • Mae gan UAC gysylltiad annibynnol gyda gwleidyddion allweddol yn y Cynulliad Cenedlaethol, Llywodraeth San Steffan a'r Undeb Ewropeaidd.