LLYFR HUNANGOFIANT JOHN MORRIS

16/01/2012 00:00

Dyma ni bellach ychydig dros wythnos i fewn i’r flwyddyn newydd, ac yng nghanol prysudeb mawr yn y Swyddfa Sirol.  Yn ddi os, y prif bwnc dan sylw yw adolygiad y Polisi Amaeth Cyffredin, ac yn arbennig y papur trafod a gyhoeddwyd ar 19 o Ragfyr 2011 gan Alun Davies ar y ffordd ymlaen i Gymru,  lle mae angen ymatebion erbyn diwedd mis Mawrth.  Mae’n siwr y bydd hwn yn un o’r pynciau pwysicaf fydd ar y gweill yng Nghyfarfod Blynyddol yr Undeb sydd i’w gynnal yng Ngwesty’r Ship, Dolgellau, Nos Wener 27ain o Ionawr pryd y bydd Alun Davies gyda ni.  Bydd hon yn sicr yn noson bwysig dros ben inni fel Undeb.

 

Yn ystod y cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, bu’n gyfnod da iawn i ddarllen ambell i lyfr sydd gennyf, ac rwy’n awyddus i gyfeirio yn arbennig at Hunangofiant yr Arglwydd Morris o Aberafan ’50 Years in Politics and the Law’.  Fel sy’n wybyddus mae John Morris yn wleidydd sydd wedi rhoi gwasanaeth hir iawn i wleidyddiaeth yng Nghymru, gan iddo gael ei ethol i’r Tŷ Cyffredin ym 1959.  Gwasanaethodd o dan dri Prif Weinidog, ac roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1974 a 1979 ac yn Dwrne Cyffredinol rhwng 1997 a 1999.

 

Mae hanes ei fywyd yn eithriadol ddiddorol, ond yn sicr y diddordeb pennaf inni yw’r bennod sy’n son am ei waith gyda Undeb Amaethwyr Cymru.  Mae John Morris yn egluro fel y bu iddo ddechrau ei yyrfa wedi iddo ddychwelyd ar ol cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol, yn Hydref 1955.  Daeth yn ôl adref i Geredigion dros gyfnod y Nadolig 1955.  Mae’n adrodd fel yr oedd ef wedi clywed fod yna garfan o ffermwyr yng Nghaerfyddin a Cheredigion wedi gadael Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr i greu undeb amaethyddol i Gymru, ac roedd wedi mynd gyda’i lysdad i gyfarfod yng Ngwesty’r Lion Royal yn Aberystwyth.  Cafodd gais yno i dderbyn swydd fel Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a Chyngorydd Cyfreithiol i Undeb Amaethwyr Cymru, swydd y bu yn ei dal am 2 flynedd.

 

Hwn oedd y cyfnod allweddol yn nhyfiant yr Undeb, ac mae’n adrodd fel yr oedd y cyfrifoldeb wedi ei roi arno ef i ehangu’r Undeb tu hwnt i Gaerfyrddin a Cheredigion a chenhadu i Ogledd Cymru.  Mae’n adrodd yn fanwl fel y cafodd orchymyn i ddod i Ddolgellau i gyfarfod y diweddar Tom Jones, Llanuwchllyn a oedd ar y pryd yn gweithio gyda Chwmni Farmers Marts, ac yn cael ei ystyried yn berson blaenllaw lle byddai disgwyl iddo gefnogi’r Undeb gymraeg newydd.  Yn anffodus fodd bynnag ni chafodd lawer o groeso!  Canlyniad hyn oedd gadael Meirionnydd a mynd ymlaen i gychwyn yr Undeb yng Ngaernarfon ac Ynys Môn lle cafodd lawer mwy o groeso.  Hyn sy’n egluro wrth gwrs na gychwynodd yr Undeb yn ffurfiol ym  Meirionnydd hyd at fis Mai 1956.  Bu’r cyfarfod cyntaf yn y Llyfrgell Rydd  yn Nolgellau, ac mae’r plac yn dal ar yr adeilad hwnnw yn dilyn achlysur pwysig o ddathlu’r 50 mlynedd a wnaethom yn ôl ym 2006.

 

Yn ogystal a’r ddwy flynedd yma o weithio i’r Undeb, mae’n bwysig hefyd cyfeirio at gyfraniad aruthrol a wnaeth John Morris ym 1978 pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a pan y bu iddo sicrhau y cydnabyddiaeth swyddogol i’r Undeb gan y Llywodraeth.

 

Mae’n son mae’r dyddiad pwysig  oedd y 1af o Fawrth 1978 pan droglwyddwyd pwerau am amaethyddiaeth yng Nghymru i’r  Swyddfa Gymreig, ond cyn gwneud hyn  mae’n adrodd am y gwaith pwysig oedd ganddo o sicrhau cais yr Undeb am gydnabyddiaeth swyddogol.  Gallai fod wedi gwneud hyn ei hun fel Ysgrifennydd Gwladol, ond roedd yn teimlo y byddai llawer mwy cywir a llawer gwell pe bai hyn yn cael ei wneud ar y cyd rhwng Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog Amaeth y Deyrnas Unedig sef yr Aelod Seneddol John Silkin.

 

Yn ddi os felly mae cyfraniad John Morris i Undeb Amaethwyr Cymru yn gwbwl amhrisiadwy ac yn sicr mae’r hanes yma yn un y dylai pob aelod o’r Undeb fod yn ymwybodol ohono.