NEWYDDION DA YNGLYN A BAND EANG
13/08/2010 00:00
Rwy’n derbyn cwynion yn y swyddfa hon o dro i dro am y trafferthion difrifol a geir mewn rhannau o Feirionnydd i gael cysylltiad band eang. Rwy’n ymdrin llawer gyda ffermydd sydd yn amlwg mewn cymoedd anghysbell ac ymhell o gyfnewidfa ffôn, ac mae’r broblem hon yn achosi anhwylustod difrifol. Engraifft o hyn yw’r pwysau sydd ar ffermydd i gofrestru symudiadau gwartheg drwy gyfrwyng cyfrifiadur, ac rwy’n gorfod egluro’r sefyllfa hyn i Ganolfan Symud Gwartheg (British Cattle Movement Service – BCMS)
Bu i’r Undeb hefyd fynegi beirniadaeth chwyrn yn ddiweddar o benderfyniad swyddfa’r dreth incwm i orfodi ffermwyr i gyflwyno eu ffurflenni treth ar werth drwy gyfrifiadur o’r 1af o Ebrill eleni. Roedd hwn yn benderfyniad anheg iawn i ardaloedd gwledig a oedd yn diystyru yn llwyr yr holl broblemau i gael cysylltiad band eang.
Does dim rhyfedd felly bod yr Undeb wedi estyn croeso cynnes i gyhoeddiad y Cynulliad Cenedlaethol dros fis yn ôl i roi ymrwymiad i sicrhau cyllid digonol fel bod y rhan fwyaf o’r ardaloedd sydd yn methu cael band eang yn medru gwneud hynny. Rhoddwyd cyllideb cychwynol o £2 filiwn ar gyfer y gwaith yma, ac mae trafodaethau hefyd ar y gweill gan y Cynulliad i gael cymorth Ewropeaidd drwy y Cynllun Datblygu Gwledig. Yn ôl y deallaf mae yna 1800 o unigolion eisoes wedi cofrestru ar fas data y Cynulliad lle maent yn nodi nad oes ganddynt gysylltiad band eang, ac yn amlwg felly mae hon yn broblem enfawr.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol bellach wedi cyhoeddi ffurflenni cais lle gall unigolion, cwmniau neu gymdeithasau mewn ardaloedd gwledig wneud cais am gymorthdal, lle mae cymorth o uchafswm o £1,000. Mae hwn yn gam pwysig iawn i ardaloedd gwledig sydd i’w groesawu’n fawr ac yn gydnabyddiaeth o’r problemau sy’n gwynebu’r diwydiant amaeth. Mae’n rhaid i unigolion, busnesau a chymunedau mewn ardaloedd gwledig gael yr un cyfleusterau a’r sgiliau ag ardaloedd trefol os am gael unrhyw obaith cystadlu i ddenu gwaith i’r ardaloedd hyn.

