DYFODOL Y BWRDD CYFLOGAETH AMAETHYDDOL

05/08/2010 00:00

Ymysg y pynciau dan drafodaeth yn y diwydiant amaeth yr wythnos diwethaf oedd cyhoeddiad Ysgrifennydd DEFRA Caroline Spelman i ddiddymu y  Bwrdd Cyflogaeth Amaethyddol.  Nid oedd y cyhoeddiad hwn yn anisgwyl, oherwydd roedd y llywodraeth newydd yn Llundain wedi mynegi’n glir ar ôl ennill yr etholiad y byddai hyn yn cael ei ystyried yn weddol fuan, gan gynnwys hefyd nifer o gyrff eraill sy’n gysylltiedig â DEFRA.  Y prif fwriad wrth gwrs yw arbed arian, ac mae’n siwr y byddaf yn dychwelyd at hyn nifer o weithiau dros y misoeddd nesaf.

 

Mae’r ddedfwriaeth i sefydlu’r Bwrdd Cyflogaeth Amaethyddol mewn bodolaeth ers 1948, ac rydym yn cael ymholiadau gan ffermwyr yn y swyddfa hon o dro i dro yn gofyn am delerau a lefel cyflogau sy’n cael ei gosod gan y Bwrdd.  Fel sy’n wybyddus, mae cynrychiolwyr ffermwyr a chynrychiolwyr gweithwyr amaethyddol yn cyfarfod yn flynyddol i benderfynnu ar gyflogau.

 

Ni all DEFRA wneud penderfyniad ar hyn yng Nghymru heb gytundeb gyda Llywodraeth y Cynulliad, ac yn ystod yr wythnos hon bu Elin Jones yn ymgynghori gyda’r diwydiant amaeth ar sut i symud ymlaen.   Bu’r Undeb yn rhan bwysig o’r ymgynghoriad yma. 

 

Yn sicr mae yna deimladau cymysg ynglyn a beth ddylid ei wneud gyda’r Bwrdd Cyflogaeth, gyda rhai ffermwyr yn gweld dileu y Bwrdd fel newyddion da fyddai’n  rhoi mwy o ryddid iddynt benderfynu eu hunain ar lefel cyflogau, - a’i gosod ar yr un lefel a chyflogau gweithwyr eraill.  Ar y llaw arall, mae yna ffermwyr eraill yn gweld manteision mawr i’r Bwrdd Cyflogaeth gan ei fod yn gosod seiliau cadarn i delerau gwaith a chyflogaeth ac yn arbed amser o orfod ymdrin yn unigol gyda staff.  Bydd nifer o weithwyr amaethyddol wrth gwrs yn sicr yn flin iawn am y cyhoeddiad, ac yn wir mae cynrychiolydd y gweithwyr, sef yr Undeb ‘Unite’,yn gweld hyn yn drychineb i’r diwydiant amaethyddol.  Yn eu tyb hwy, bydd llai o weithwyr yn cael eu denu i’r diwydiant amaeth, ac hefyd bydd y diwydiant amaeth yn cael trafferth yn  y dyfodol i gadw gweithwyr sydd a’r sgiliau angenrheidiol.

 

Yr hyn sy’n bwysig i’w bwysleisio yw fod ffermwyr yn gweld pwysigrwydd trin staff amaethyddol yn broffesiynol, ac mae nifer fawr yn gweld manteision dilyn canllawiau cydnabyddedig. Fodd bynnag mae’n anodd gweld ar hyn o bryd y bydd y Cynulliad mewn sefyllfa i gyflwyno deddfwriaeth eu hunain i’r pwrpas yma. Hwyrach yn wir y bydd yr Undeb yn y dyfodol yn gorfod chwarae  rhan mwy amlwg yn cynnig cymorth i ffermwyr ar y mater.