PRYDER AM DREFN MAPIO NEWYDD GAN Y CYNULLIAD
29/07/2010 00:00
Un mater sydd wedi bod o bryder i’r Undeb, ac yn sicr i ni fel staff yn y swyddfeydd sirol, yw bwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddiweddaru y mapiau sydd ganddynt i bwrpas taliadau cymorthdal, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgyleddol. Rhoddwyd crynodeb o’r mater yma yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn ‘GWLAD’ sy’n cael ei ddanfon i bob ffarmwr, ac mae’n werth cael golwg ar yr erthygl. Bu’r mater hefyd dan drafodaeth yn y Sioe yr wythnos diwethaf.
Y cefndir yw fod y gwybodaeth presennol a ddefnyddir gan y Cynulliad wedi ei seilio ar hen fersiwn o fapiau yr Arolwg Ordnans. Gan fod hwy wedi gwella cywirdeb y wybodaeth, mae’r Undeb Ewropeaidd – yn ol y Cynulliad – yn eu gorfodi i ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf. Gwneir y gwaith drwy broses gyfrifiadurol a lluniau o’r awyr, a bydd unrhyw derfynnau – neu nodweddian parhaol fel creigiau etc, nad oedd wedi ei nodi o’r blaen, yn awr yn gorfod cael eu cynnwys. Yn anorfod felly, gallai fod yna newidiadau allai effeithio ar ffermwyr.
Bwriedir yn awr ddanfon llythyrau gyda gwybodaeth am gaeau i ffermwyr yn ystod y 6 mis nesaf. Bydd angen i bawb edrych yn fanwl ar y gwybodaeth, a chywiro unrhyw fanylion cyn pen 14 diwrnod. Y newyddion da yw na fydd hyn yn effeithio ar y gwaith o brosesu y Taliad Sengl am 2010, nac ychwaith unrhyw daliadau eraill am 2010.
Yn ystod y cyfarfodydd rhwng y Cynulliad a’r Undeb, fe lwyddwyd i liniaru ychydig ar effaith y rheol newydd yma, er bod pryderon mawr yn parhau. Y pryder pennaf yw y bydd y broses yma yn dod a gwybodaeth newydd i sylw’r Cynulliad, ac y gallai fod yna newidiadau i derfynnau a maint caeau heb yn wybod iddynt o’r blaen, ac mae yna bosibilrwydd felly y gallai fod yna gosbi yn sgil hyn. Y gobaith yw y bydd y mapiau newydd a gafwyd i bwrpas y Taliad Sengl eleni, lle roedd yna ddarlun clir o’r fferm, wedi helpu i ddangos i ffermwyr unrhyw newidiadau oedd ei angen.
Deallaf y bydd mapiau y cynllun Glastir wedi eu seilio ar wybodaeth y cynllun Taliad Sengl 2010, ond y bydd y mapiau a ddefnyddir adeg y cyfweliadau unigol ar y cynllun yn gorfod defnyddio’r wybodaeth newydd! Mwy o gymlethdod a gwaith o’n blaen felly!

