AELODAETH

Mae aelodaeth Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnwys aelod llawn, aelod cysylltiedig ac aelod ifanc.

 

Mae aelod llawn o'r Undeb yn gymwys i dderbyn pob llenyddiaeth a gwybodaeth sy'n cael ei gyhoeddi ac yn derbyn yr hawl hefyd i fynychu a phleidleisio yn unrhyw gyfarfodydd lleol, sirol a chyffredinol yr Undeb.  Mae'r un hawl yn perthyn i aelod ifanc yr Undeb.

 

Mae aelod cysylltiedig yn gymwys i dderbyn pob llenyddiaeth a gwybodaeth sy'n cael ei gyhoeddi ac yn derbyn yr hawl hefyd i fynychu cyfarfodydd, ond nid oes hawl i bleidleisio mewn cyfarfodydd.  Nid oes hawl gan aelod cysylltiedig i ddal unrhyw swydd swyddogol na chwaith yn medru bod yn rhan o unrhyw Bwyllgor yr Undeb oni bai eu bod nhw'n cael eu gwahodd ar sail ymgynghorol.

 

 

AELODAETH

TANYSGRIFIAD

DOSBARTHIAD

LLAWN

 

Unrhyw berson sy'n derbyn incwm yn rhannol neu'n llawn o'i arferion ffermio.

AELODAU IFANC

 

Meibion a merched sy'n gweithio'n llawn amser ar y fferm

CYSYLLTIEDIG

 

Gweler isod

AELODAETH CYSYLLTIEDIG

DOSBARTHIAD AELODAU

 

  • Ffermwyr sydd wedi ymddeol.
  • Gweithwyr fferm llawn a rhan amser.
  • Meibion a merched sydd ddim yn gweithio'n llawn amser ar y fferm deuluol.
  • Unigolion neu cyfundrefnau sy'n ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gyda amaethyddiaeth.
  • Unrhyw berson sy'n rhenti mwy na 1 acer o dir, ond nid yw'n ffermwr llawn na rhan amser.